Colegau ac Atgyfeirwyr
Rydym yn gweithio’n agos gydag atgyfeirwyr i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr.
Mae ein cefnogaeth i atgyfeirwyr yn cynnwys:
- sesiynau gwybodaeth ar yr Academi Adeiladu Ar y Safle (ar gyfer atgyfeirwyr a dysgwyr),
- cyfathrebu cyson drwy gydol ymgysylltiad y dysgwr, a
- data ar gynnydd a deilliannau dysgwyr.
Os oes nifer fawr o ddysgwyr o ranbarth penodol, byddwn yn gweithio gydag atgyfeirwyr a chyflogwyr i ddod â’n cwrs i’r ardal leol lle bo hynny’n bosibl.