Ceiswyr Gwaith
Ydych chi’n ddi-waith ac yn awyddus i ddechrau gyrfa ym maes adeiladu neu ddychwelyd i’r diwydiant?
Ydych chi am newid eich gyrfa ac ydych chi am ddechrau eich llwybr ym maes adeiladu?
Rydym yn cynnig cymorth a hyfforddiant i’ch rhoi ar ben ffordd yn eich gyrfa adeiladu.
Fel rhan o Wasanaeth i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd, mae gennym brofiad o ddarparu cymorth i bobl sy’n chwilio am waith neu i uwchsgilio yn eich swydd bresennol.
Rydym yn gweithio’n agos gyda nifer o gyflogwyr a chontractwyr i gynnig profiad gwaith, cyfleoedd gwaith a phrentisiaethau.
Byddwch yn derbyn y Cyfarpar Diogelu Personol (CDP) sydd ei angen i weithio’n ddiogel ar y safle gan gynnwys:
- hetiau caled,
- gogls,
- festiau gwelededd uchel,
- menig, a
- bŵts safonau BSI.
Ydych chi am adeiladu eich sgiliau a datblygu eich gyrfa? Cofrestrwch nawr.